Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn ôl!
Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013 yn gynllun gwobrwyo sydd wedi’i sefydlu i ddangos y gorau
sydd gan Gymru i’w gynnig yn y diwydiant twristiaeth. O westai moethus i lety gwely a brecwast cysurus, mae
rhai elfennau’n gyffredin gan bob un – ansawdd uchel, croeso cynnes a ffordd gwbl broffesiynol o ofalu am
ymwelwyr.
Mae’r cynllun a’r seremoni wobrwyo’n cael eu trefnu gan Croeso Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â
Chynghrair Twristiaeth Cymru a mewn partneriaeth fasnachol gyda cwmni cyfathrebu corfforedig,
Quadrant Media & Communications Ltd.
Cynhelir y seremoni wobrwyo a’r cinio nos Iau 21 Tachwedd 2013 yn Venue Cymru yn Llandudno.
Cliciwch yma i archebu eich tocynnau..
Mi fydd Gynhadledd flynyddol Cynghrair Twristiaeth Cymru - Cystadlu ar gyfer Cymru - yn cael ei chynnal
yn Venue Cymru y diwrnod ar ôl y Gwobrau Twristiaeth, ar ddydd Gwener 22 Tachwedd. I gael rhagor o
wybodaeth am y gynhadledd cliciwch
yma neu e-bostiwch
info@WTA.org.uk
Newydd Gyhoeddi!
Mi fydd gweithdy byr yn cymryd lle yn y prynhawn ar 21 Tachwedd, cyn y Sermoni Wobrwyo, ac mae’r wahoddiad
ar agor i pob gyfundrefn sydd yn ymgeisio. Dyma siawns arbenning I dysgu sgiliau sy’n allweddol ar gyfer
rhedeg busnes llwyddiannus, yn cynnyws:
Cyflwyniad i Cyfryngau Cymdeithasol
Sgiliau Cysylltu
Marchnata ar-lein…a mwy!
Mi fydd amserau yn cael ei gadarnhau yn agosach at y diwrnod, ond amseriadau bras fydd 13.00 – 15.30 yn
Venue Cymru, Llandudno.
Fel arwydd o ewyllys da, bydd y ymgeiswyr yn y rownd derfynol hefyd yn derbyn y deunydd a ffilmiwyd gan
Quadrant i sgrinio yn y digwyddiad yn rhad ac am ddim - offeryn delfrydol i wella eich gweithgarwch
marchnata.