CYHOEDDI ENILLWYR GWOBRAU TWRISTIAETH CENEDLAETHOL



Cafodd hufen diwydiant twristiaeth Cymru eu gwobrwyo heno yng Ngwesty'r Fro, wrth i noson fawr y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol gael ei chynnal ar y cyd â Croeso Cymru, Cynghrair Twristiaeth Cymru ac mewn partneriaeth fasnachol â chwmni cyfathrebu cenedlaethol Quadrant.

The Grove, Arberth, Sir Benfro, a agorwyd ym 2009, a enillodd y categori y Lle (mawr) Gorau i Aros. Ac yn y categori hynod gystadleuol y Lle bach Gorau i aros, y sefydliad gwely a brecwast bwtîc Ffynnon yn Nolgellau oedd yn fuddugol, gyda’r chwaer Debra Harris yn curo ei brawd Gavin Harris, perchennog manorhaus, Rhuthun, a oedd hefyd ar y rhestr fer yn yr un categori.

Parc Carafannau a Gwersylla Yr Helyg – The Willows yn Abersoch a ddewiswyd fel y Parc Gorau ar gyfer Carafannau a Gwersylla. Dyfarnwyd gwobr Lle (mawr) Hunanarlwyo Gorau i Aros i Fythynnod Clydey. Bythynnod Sir Fynwy– Bwthyn Abaty Tyndyrn oedd enillydd y categori Lle Hunanarlwyo Bach Gorau i Aros.

Enillodd Gŵyl Fwyd a Diod y Bont-faen y wobr Digwyddiad Cymunedol Gorau. Mae'r digwyddiad wedi'i gynnal yn y dref heb eithriad ers 2004 pan fu'n dathlu bod y dref yn 750 o flynyddoedd oed. Gŵyl y Gelli oedd ar y brig yn y categori Digwyddiad Mawr Gorau. Mae wedi'i chynnal am 23 o flynyddoedd ac wedi croesawu unigolion fel Bill Clinton, Arlywydd yr UD a'r Archesgob Desmond Tutu.

Enillydd y wobr y Diwrnod Gorau i’r Teulu oedd Folly Farm yn Sir Benfro, a chafodd ei chanmol am gynnig gwerth gwych am arian i deuluoedd â phlant o bob oedran. Cafodd yr atyniad hwn noson lwyddiannus gan ennill y wobr am Farchnata Digidol hefyd.

Afan Lodge, Gwesty sydd newydd ei adeiladu ac sydd â gerddi ei hun ym Mharc Gwledig Afan Argoed, Port Talbot oedd enillydd y wobr Busnes Newydd Gorau. Roedd y beirniaid o'r farn bod y gwesty yn ddelfrydol i'r farchnad beicio mynydd a dywedon nhw fod brwdfrydedd y perchenogion yn 'heintus'.

Yn llwyddo gyda’i gilydd oedd tîm Gwesty’r Hilton Caerdydd, a enillodd y wobr am y Tîm Gorau. Cafwyd buddugoliaeth arall i Gaerdydd yn y categori Profiad Gorau i Ymwelydd gyda Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn ennill y teitl hwn. Gall Call of the Wild Ltd, Bannau Brycheiniog, ychwanegu'r wobr Twristiaeth Fusnes at ei restr hir o wobrau a chafodd y cwmni glod am ei syniadau arloesol ac am y ffordd ardderchog y mae wedi defnyddio adborth cwsmeriaid i wella'r busnes.

Enillodd Cymdeithasau Twristiaeth Gorllewin Cymru y wobr Partneriaeth Orau, am eu gwaith ardderchog ar ran busnesau twristiaeth yng Nghymru. Eleni yw blwyddyn gyntaf y wobr hon.

Pwll Mawr, Blaenafon, oedd yn fuddugol ar gyfer y wobr Naws am Le gan ei fod yn rhoi profiad cofiadwy i'r ymwelwr sy'n llawn naws o le.

Er mwyn i dwristiaeth fod yn gynaliadwy mae'n gorfod sicrhau bod anghenion hirdymor cymunedau, ymwelwyr a'r amgylchedd yn cael eu hystyried. Am ddangos ymrwymiad i gynaliadwyedd, cwmni Andrew Fryer, Wern Growth Services Ltd, a enillodd wobr twristiaeth gynaliadwy ar gyfer y tŷ bynciau 5 seren, Wern Watkin, yn Llangatwg, ger Crucywel.

Gwobr olaf y noson oedd Cyfraniad Rhagorol at y Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru. Dyfarnwyd y wobr arbennig hon i Julian Burrell OBE sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at wneud diwydiant twristiaeth Cymru'n flaenllaw ar draws y byd, a sicrhau ei fod yn gallu cystadlu mewn marchnad fyd-eang. Mae newydd adael ei swydd fel cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru.

Meddai Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth: "O ystyried ein bod wedi cael y nifer uchaf o ymgeiswyr erioed eleni gall enillydd pob categori fod yn falch iawn o'i lwyddiant. Nid peth bach yw bod y gorau yng Nghymru. Mae'n rhaid canmol ymroddiad y busnesau hyn i ansawdd ac ailddatblygu'u cynnyrch i ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn ystod cyfnod economaidd heriol.

“Mae'r seremoni wobrwyo yn dangos pwysigrwydd diwydiant twristiaeth Cymru sydd werth £4 biliwn i economi'r wlad ac ansawdd y cynnyrch yr ydym yn ei gynnig i'n hymwelwyr. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi ennill gwobr heno."

Mae nifer o fusnesau wedi dod yn noddwyr ar gyfer gwobrau eleni, gan gynnwys Visit Britain, Cymru: y Gwir Flas, Gwesty Hamdden y Fro, yr Ymddiriedolaeth Garbon, Uwch Ranbarth Twristiaeth, Partneriaeth Dwristiaeth y Canolbarth, Twristiaeth Bartneriaeth y Gogledd, Bartneriaeth Dwristiaeth y De-orllewin, Stadiwm y Mileniwm, Research and Marketing Group, UWIC, Cadw. Cynghrair Twristiaeth Cymru, Gyrfa Cymru, Fine Wines Direct a Gower Cottage Brownies.