Bydd yr holl fuddugwyr yn cael eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Ngwesty Hamdden, Golff a Sba y Vale yn Hensol, ger Caerdydd, ddydd Iau 21 Hydref. Mae'r noson yn cychwyn gyda derbyniad diodydd am 7yh.

Bydd y gyflwynwraig teledu, Sarra Elgan, yn cyflwyno'r gwobrau a gallwn eich sicrhau y bydd yn noson llawn adloniant, bwyd da, a chyfle i rwydweithio a dawnsio.

Tocynnau

Pris y tocynnau yw £75 yr un a bydd byrddau ar gyfer 10 person ar gael am £700 yr un. Mae pris y tocyn yn cynnwys derbyniad â siampén, pryd o fwyd pum cwrs ac adloniant. Mae prisiau yn eithrio TAW. Gallwch archebu eich tocynnau drwy gyfrwng World Pay wrth glicio fan hyn.

Gall byrddau o 12 hefyd gael eu harchebu am £850.

Llety

Mae ystafelloedd ar gael yn y gwesty, ond rydym yn argymell ichi gadw lle yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi. Gallwch gadw ystafell drwy ffonio 01443 667800. Peidiwch ag anghofio sôn eich bod yn dod i Wobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru, er mwyn ichi elwa ar y gyfradd arbennig. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwesty a'i gyfleusterau yn www.vale-hotel.com.

Mae ystafelloedd ar gael mewn gwestai cyfagos hefyd:

Miskin Manor: www.miskin-manor.co.uk

Travelodge Caerdydd, ar yr M4: www.travelodge.co.uk

Am fanylion pellach am lefydd i aros ewch i www.visitwales.co.uk

Cyrraedd yno

Cliciwch ar y ddolen i ddod o hyd i gyfarwyddiadau i'r gwesty - www.vale-hotel.com/location