Mae’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau bellach wedi mynd heibio ac mae panel o gynrychiolwyr o’r diwydiant a’r sector cyhoeddus wrthi’n eu beirniadu. Caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi yn y seremoni ddydd Iau 21 Hydref.
Mae ymwelwyr â Chymru yn mwynhau darganfod beth sy'n gwneud Cymru mor unigryw ac arbennig. Mae'r wobr hon ar gael i fusnesau neu gyrchfannau sy'n gallu profi eu bod yn mynd ati yn rhagweithiol i hyrwyddo naws am le, er enghraifft drwy arddangos neu werthu bwyd a diod o Gymru, dodrefn o Gymru, celf a chrefft o Gymru a defnyddio'r Gymraeg etc.
Bydd rhaid i gystadleuwyr ddangos tystiolaeth o sut y maent nid yn unig yn helpu i hyrwyddo naws am le drwy ddefnyddio eitemau o'r fath, ond hefyd sut y maent yn marchnata eu cynnyrch yn llwyddiannus. Rhaid iddynt hefyd nodi unrhyw feysydd lle maen nhw'n meddwl eu bod yn cynnig profiad gwahanol, anghyffredin neu unigryw.
Rydym yn chwilio am fusnes sy'n cofleidio bob agwedd ar naws am le; o ddangos lluniau o'r ardal leol neu gan artistiaid lleol i ddefnyddio llenni a defnyddiau, dodrefn a deunyddiau adeiladu traddodiadol o Gymru neu ddefnyddio'r Gymraeg ar arwyddion, cynnyrch marchnata a bwydlenni. I'r rheini ohonoch sy'n gweini bwyd, bydd angen ichi ddangos bod yr hyn yr ydych yn ei gynnig yn cynnwys cynnyrch lleol.
Rydym am ichi ddangos eich bod yn llysgenhadon ar ran eich ardal leol. Ydych chi'n mynd ati'n rhagweithiol i awgrymu syniadau i'ch cwsmeriaid ar bethau i'w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw? Ydych chi wedi datblygu cysylltiadau â busnesau eraill yn y gymuned leol?
O ran cyflenwyr sy'n cynnig cynnyrch i'w ystyried ar gyfer gwobr, rydym yn edrych am fusnes sy'n targedu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru â chynnyrch sy'n nodweddiadol o Gymru, er mwyn cyfoethogi profiad yr ymwelydd.
Chwilio am rywbeth gwahanol mae pobl sy’n dod i Gymru, rhywbeth gwreiddiol a rhywbeth real. Mae’r categori hwn ar agor i atyniadau, digwyddiadau, darparwyr gweithgareddau, arweinwyr teithiau, cwmnïau teithio, hyd yn oed unigolion sy’n gallu dangos fod yr hyn y maen nhw’n ei gynnig i ymwelwyr â Chymru yn gwbl unigryw ac yn brofiad gwirioneddol wahanol i’r ymwelydd.
Bydd enillydd y categori hwn yn darparu ar gyfer ymwelwyr sy’n chwilio am antur neu sydd am gael profiadau newydd. Rhaid i’r profiad a gynigir fod yn un gwirioneddol sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr brofi rhywbeth gwahanol. Rhaid i chi hefyd allu dangos eich bod yn deall yr angen i ddiogelu’r hyn sy’n gwneud Cymru’n real - ei hamgylchedd, tirwedd, hanes a diwylliant.
Does dim un teulu yn union yr un fath â’r nesaf, ond mae rhai gofynion sylfaenol yn hanfodol ar gyfer diwrnod allan i’r teulu. Mae diwrnodiau sy’n rhoi ystyriaeth i anghenion plant yn golygu bod y plant a’r rhieni’n hapus! Yn 2010 byddwn ni’n canolbwyntio rhai o’n hymdrechion marchnata ar ddenu teuluoedd i Gymru, a gyda golwg ar hyn rydym ni am ddod o hyd i’r diwrnod gorau i’r teulu yng Nghymru.
Rydym ni’n chwilio am atyniad, gweithgaredd neu ddigwyddiad sy’n canolbwyntio ar farchnad y teulu. Bydd angen i chi gynnig pethau arloesol a chyffrous i’w gwneud a fydd yn apelio at blant yn ogystal ag oedolion.
Ystyrir mai rhagoriaeth o ran gwasanaeth y cwsmer a lletygarwch fydd eich amcanion busnes craidd. Bydd tystiolaeth o gynllun hyfforddi ac ymrwymiad i ddatblygiad staff yn hanfodol. Rydym ni’n chwilio am fusnesau sydd wedi datblygu cyfleusterau o ansawdd uchel, gwasanaethau a gweithgareddau penodol sydd wedi’u hanelu at y teulu.
Cynhelir digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon mawr ar lwyfan Cymru yn ogystal â digwyddiadau llai sydd ychydig allan o’r cyffredin, yn gymunedol ac yn hwyl. Mae’r categori hwn yn agored i ddigwyddiadau mawr a bach sy’n cynnig profiad o’r ansawdd gorau.
a – Digwyddiad mawr
Bydd potensial gan y digwyddiad hwn i ddenu ymwelwyr newydd o’r tu hwnt i’r ardal leol a chodi proffil Cymru.
Drwy waith marchnata a hyrwyddo llwyddiannus, bydd nifer yr ymwelwyr a gwariant wedi tyfu mewn modd cynaliadwy a bydd y digwyddiad yn dangos ymrwymiad i ddatblygiadau a gwelliannau sy’n cyd-fynd ag anghenion newidiol y sector.
Yn allweddol i hyn mae rhagoriaeth gwasanaeth, gofal y cwsmer a lletygarwch, yn ogystal ag ymrwymiad i hyfforddi staff a hyrwyddo naws Cymru am le. Bydd angen dangos tystiolaeth o gynllunio at y dyfodol a chynaladwyedd ariannol y digwyddiad.
b - Digwyddiad cymunedol
Rydym ni am wobrwyo digwyddiad sydd wedi cael effaith economaidd cadarnhaol ar y gymuned leol, megis helpu i feithrin adfywiad cymunedol a gwell ymdeimlad o falchder. Bydd y prosiect wedi llwyddo i dynnu sylw at yr ardal ac wedi dechrau denu ymwelwyr o fannau eraill, gan ddod â buddiannau economaidd i fusnesau lleol.
Bydd y prosiect yn tynnu ar sgiliau ac arbenigedd trigolion lleol a busnesau bach i greu profiad cynaliadwy, bywiog ac unigryw i’r ymwelydd. Y bobl sy’n ymwneud â’r digwyddiad fydd wedi ei ddatblygu i fod yr hyn ydyw heddiw, bydd y rheini sy’n ymweld yn cael gwell dealltwriaeth o’r gymuned a bydd yn eu helpu i gysylltu â’r hyn sy’n digwydd yn lleol yn ogystal â meithrin ymdeimlad o berthyn.
Bydd angerdd y gymuned leol dros y digwyddiad i’w weld yn glir. Bydd gennych hefyd syniadau mawr ar gyfer datblygu’r digwyddiad at y dyfodol heb gyfaddawdu’r ymdeimlad o gymuned sy’n ei wneud mor arbennig. Bydd angen tystiolaeth o gynllunio at y dyfodol a chynaladwyedd ariannol y digwyddiad.
Caiff y wobr hon ei rhoi i’r llety gorau yng Nghymru; llefydd i aros sy’n unigryw, arloesol, ag ansawdd uchel sy’n cynnig profiad gwirioneddol gofiadwy i ymwelwyr.
Mae’r categori hwn ar agor i holl lety graddedig Croeso Cymru. Bydd enillwyr dyfarniad aur Croeso Cymru 2009/2010 yn cael eu gosod yn awtomatig yn y categori â gwasanaeth.
a - â gwasanaeth
1. Gweithredwr bach – hyd at 10 o ystafelloedd gwely
2. Gweithredwr mawr – dros 10 o ystafelloedd gwely
b - heb wasanaeth
1. Gweithredwr Bach (hyd at dair uned)
2. Gweithredwr Mawr (unedau lluosog gan gynnwys gwasanaeth hunanarlwyo)
3. Carafán a gwersylla
Bydd enillydd pob categori yn fusnes enghreifftiol yn cynnig yr ansawdd gorau bosibl ym mhob agwedd o brofiad ymwelydd. Rydym ni’n chwilio am fusnesau sy’n torri tir newydd o ran gwasanaeth i’r cwsmer, cyfforddusrwydd a lletygarwch.
Rydym ni am weld tystiolaeth o werth ardderchog am arian, sylw i fanylion, gwasanaeth i’r cwsmer sy’n rhagorol a chyfeillgar, safonau uchel o gelfi a gosodiadau a pharodrwydd i deithio’r ail filltir i sicrhau fod yr holl ymwelwyr yn cael ymweliad i’w gofio.
Mae’r wobr hon yn dymuno cydnabod unrhyw fusnesau twristiaeth sy’n gallu dangos defnydd effeithiol o farchnata digidol.
Rydym ni’n chwilio am ymagwedd wreiddiol ac arloesol at farchnata digidol sydd â chynllun a strategaeth sydd wedi’u hymchwilio’n drylwyr ac sydd ag amcanion clir. Bydd eich gwaith marchnata digidol wedi’i ymchwilio’n dda ac yn dangos llwyddiant drwy werthusiad a’r effaith ar eich gwaelodlin.
Mae rhagoriaeth o ran gwasanaeth, lletygarwch, ansawdd a gofal y cwsmer yn hanfodol os yw Cymru am gystadlu ar lwyfan twristiaeth y byd ac mae’r categori hwn yn dymuno gwobrwyo busnesau sy’n rhagori ar y disgwyliadau ym mhob un o’r elfennau hyn. Byddwn yn gwobrwyo busnes sy’n gweithio gyda’i gilydd fel tîm i gynnig profiad gwirioneddol gofiadwy i ymwelwyr.
Rydym ni’n chwilio am fusnes sydd ag ymrwymiad cryf i ddatblygu staff. Byddwn yn edrych am dystiolaeth o arferion cyflogaeth da y gellir eu defnyddio i ysbrydoli a chymell eraill i fabwysiadu a chyflwyno arferion tebyg. Bydd angen i’r enillydd ddangos sut mae’r buddsoddiad mewn hyfforddiant wedi’i alluogi i gyflawni ei lwyddiant.
Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau twristiaeth sydd wedi dangos gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol y tu hwnt i ddisgwyliadau ymwelwyr.
Bwriad y wobr hon yw hyrwyddo’r cyfraniad sylweddol a wneir i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru gan y sector twristiaeth fusnes.
Ein nod yw cydnabod gweithredwr neu leoliad sy’n arlwyo ac yn darparu pecynnau neu wasanaethau penodol i’r farchnad gorfforaethol neu sefydliadol. Os ydych chi’n denu cynadleddau a chyfarfodydd rhyngwladol, neu’n trefnu arddangosfeydd neu ddigwyddiadau corfforaethol megis cymhelliannau, adeiladu tîm, lansio cynnyrch neu letygarwch - dyma’r categori i chi.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i gyflawni canlyniadau. Gyda llawer o grwpiau a chymdeithasau yn cyflenwi gwaith rhagorol ar ran busnesau twristiaeth yng Nghymru, rydym ni’n falch i gynnwys gwobr partneriaeth am y tro cyntaf yn 2010. Mae’r categori hwn ar agor i gyrff sy’n cynrychioli grwpiau neu glystyrau o fusnesau twristiaeth o fewn ardal ddaearyddol neu unrhyw sector o’r diwydiant twristiaeth.
Rydym ni’n chwilio am bartneriaeth neu grŵp a all ddangos ei fod wedi cyflenwi buddiannau drwy hyfforddi, cynghori neu gefnogi. Bydd angen i’r corff hefyd ddangos ei fod wedi datblygu sianeli cyfathrebu cryf gyda’i aelodau a gyda rhanddeiliaid allweddol.
Bwriad y wobr hon yw cydnabod entrepreneuriaeth o fewn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac mae ar agor i fusnesau sydd wedi bod yn weithredol am hyd at dair blynedd. Rydym ni am wybod sut aethoch ati i greu busnes o’r newydd neu fywiogi busnes oedd eisoes yn bodoli, a sut rydych chi bellach yn cael effaith ar dwristiaeth Cymru.
Rydym ni’n chwilio am dystiolaeth i ddangos fod meddwl gwreiddiol a herio confensiwn wedi arwain at ffyrdd o ddatblygu a gwella ansawdd y busnes. Byddwch yn dangos ymrwymiad, brwdfrydedd, gallu entrepreneuraidd ac ymagwedd arloesol.
Nid bod yn ‘wyrdd’ yn unig yw twristiaeth gynaliadwy. Yn wahanol i dwristiaeth eco neu wyrdd, mae twristiaeth gynaliadwy hefyd yn ymwneud â materion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol. Er mwyn i dwristiaeth fod yn gynaliadwy, rhaid i ni sicrhau fod anghenion tymor hir cymunedau, ymwelwyr a’r amgylchedd hefyd yn cael eu hystyried.
Mae’r wobr hon ar agor i unrhyw fusnes twristiaeth sydd wedi ymrwymo i ddatblygiad cynaliadwy gan gynnwys darparwyr trafnidiaeth gynaliadwy sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol i’r diwydiant twristiaeth a grwpiau cymunedol.
Rydym yn chwilio am fusnes sydd wedi rhagori neu wneud gwelliannau yn y meysydd canlynol:
- rheoli ynni e.e. lleihau ôl troed carbon/gosod systemau ynni adnewyddadwy
- rheoli dŵr a gwastraff
- annog a hybu trafnidiaeth gynaliadwy
- cefnogi’r economi leol e.e. cyrchu cynnyrch a gwasanaethau lleol
- cefnogi diwylliant a threftadaeth leol e.e. yr iaith Gymraeg
- gwarchod a gwella’r amgylchedd lleol gan gynnwys natur a bywyd gwyllt
Byddwn hefyd yn edrych ar eich dull o hybu twristiaeth gynaliadwy ymysg eich ymwelwyr, staff a’r gymuned.