Mae’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau bellach wedi mynd heibio ac ni allwn bellach dderbyn ceisiadau. Gwnaethom dderbyn nifer uchel iawn o geisiadau eleni - y mwyaf ers i’r gwobrau ddechrau - ac mae ein beirniaid yn wynebu cryn her. Dyma beth y dywedodd rai o enillwyr 2007 ynghylch effaith ennill eu gwobr.
Enillydd y Digwyddiad Mawr Gorau – Gŵyl Jazz Aberhonddu
Dywedodd Elizabeth Jeffreys, Is-Gadeirydd Gŵyl Jazz Aberhonddu yn 2007: “Gwnaethom ennill y Wobr Twristiaeth Cenedlaethol yn 2007 ar adeg wych gan y gwnaeth ein helpu i greu enw da i’r ŵyl, a chawsom gryn sylw positif yn y wasg. Gwnaeth hefyd ein helpu i hyrwyddo Gŵyl 2008 a’r ffaith ein bod yn dathlu 25 o flynyddoedd ers sefydlu Gŵyl Jazz Aberhonddu. ”
Enillydd y Digwyddiad Cymunedol Gorau – Gwledd Conwy
Dywedodd Jane Hughes, Rheolwr Gwledd Conwy: “Roeddem mor falch o ennill Gwobr Twristiaeth Cenedlaethol. Roedd yn gydnabyddiaeth wych i’r Wledd a gwnaeth roi’r hyder i ni gredu bod y Wledd eisoes yn llwyddo ac y bydd yn parhau i lwyddo. Rydym hefyd wedi gallu rhoi’r logo ar ein holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a’n gwefan er mwyn datblygu a hyrwyddo’r Wledd ymhellach - roedd yn wych.”
Enillydd Ansawdd a Gofal Cwsmer Gorau (Atyniad) – Canolfan Mileniwm Cymru
Dywedodd Bet Davies, Pennaeth Materion Corfforaethol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru: “Teimlwn fod y wobr yn glod mawr a daeth ar adeg wych. Ar ôl ennill sawl gwobr am bensaernïaeth y Ganolfan roedd yn wych i gael cydnabyddiaeth am y gwaith y mae’n staff yn ei wneud wrth sicrhau profiad proffesiynol a chroesawgar ar gyfer ymwelwyr, gan sicrhau mai Canolfan Mileniwm Cymru yw’r lle gorau yng Nghymru i ymweld â hi”
Enillydd Ansawdd a Gofal Cwsmer Gorau (Parc Carafannau), Parc Teithio River View
Dywedodd Keith Brasnett, perchennog Parc Teithio River View: “Trwy ennill y Wobr Twristiaeth Cenedlaethol yn 2007 cawsom y cyhoeddusrwydd a’r sylw yn y wasg a fu o gymorth mawr i’n busnes. Teimlwn yn ogystal fod y wobr wedi golygu bod ein parc wedi’i ddewis yn un o ddau barc carafannau yn y DU i dderbyn gwahoddiad i dderbyniad ym Mhalas Buckingham pan fuom yn ddigon ffodus i gyfarfod â’r Frenhines!”